Deuteronomy 27

Cyfraith Duw wedi ei ysgrifennu ar garreg

1Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. 2Pan fyddwch chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'r wlad mae'r Arglwydd eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw. 3Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr Arglwydd, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi. 4Mae'r cerrig yma gyda plastr drostyn nhw i gael eu codi ar Fynydd Ebal. 5Yna dylech adeiladu allor yno i'r Arglwydd eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn. 6Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r Arglwydd eich Duw. 7Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr Arglwydd eich Duw. 8Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.”

9Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arno i, bobl Israel. Heddiw dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r Arglwydd. 10Rhaid i chi wrando arno, a cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.”

Canlyniad bod yn anufudd

11Yr un diwrnod dyma Moses yn gorchymyn i'r bobl: 12“Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. 13Yna mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali.

14“Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel:

15‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw, neu wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr Arglwydd.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
16‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
17‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
18‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
19‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
20‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
21‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
22‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu ei fam.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
23‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
24‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
25‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
26‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’

A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Copyright information for CYM